Ethos grŵp Bwyty Pasture yw defnyddio cynhyrchion lleol, hyrwyddo bwyd yn ei dymor a dileu gwastraff bwyd ac yn sgil hynny mae wedi ennill Gradd 3* ‘Food Made Good’ y Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy – sy’n golygu mai Pasture yw’r bwyty annibynnol cyntaf yng Nghymru i gael yr achrediad arbennig hwn (i).
Mae bwytai Pasture yn ddathliad o goginio dros y tân a hynny gan ddefnyddio cynhwysion lleol gwych; ac mae’r cigyddion mewnol yn dewis ac yn paratoi cig o’r radd flaenaf o ffermydd lleol dethol sy’n magu gwartheg wedi’u pesgi ar borfa, a bydd y tîm o gogyddion yn ei ddefnyddio i goginio prydau modern sy’n newid gyda’r tymhorau.
Sam Elliott yw’r Perchennog a’r Cogydd 35 oed sy’n gyfrifol am y grŵp Bwytai Pasture – sy’n cynnwys dau fwyty ym Mryste (Pasture, a agorwyd yn 2018, a Radius a agorwyd y llynedd); a dau fwyty yng Nghaerdydd (Pasture arall a agorwyd yn 2020, a Parallel a agorwyd yn gynharach eleni). Yn 2024, bydd Sam hefyd yn agor Prime by Pasture; sef cigydd, delicatessen, ysgol goginio a siop gwerthu byrgers yn Redcliffe Quarter, Bryste; a Pasture Birmingham yn Fifteen Colmore Row sydd yng nghanol dinas Birmingham.
Ers i Sam sefydlu Pasture yn 2018, mae’n teimlo’n gryf am weithio gyda chyflenwyr lleol i weithredu’r busnes mewn ffordd gyfrifol. Yn sgil ffyrdd Sam o weithio, cafodd Pasture sgôr eithriadol o uchel ym mhob un o’r tri chategori y mae’r Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy yn eu hasesu ar gyfer y safon ‘Food Made Good’ – sef yr amgylchedd, ffynonellau a’r gymdeithas.
- Yr amgylchedd: cafodd Pasture ei sgôr uchaf yn y categori hwn, a soniodd y Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy am ‘gamau helaeth’ y grŵp i fynd i’r afael â gwastraff bwyd – gan gynnwys compostio’r holl wastraff bwyd heb ei fwyta mewn treulydd anaerobig ar y safle. Mae’r staff hefyd wedi’u hyfforddi mewn atal gwastraff bwyd. Caiff yr holl olew coginio a ddefnyddir ei ailgylchu, daw’r holl siarcol o ffynonellau cynaliadwy, a dewisir y cyflenwyr yn ofalus drwy edrych ar eu hymrwymiadau personol i arferion sy’n amgylcheddol gynaliadwy.
- Ffynonellau: Rhagorodd Pasture yn y categori hwn drwy gynnal perthynas uniongyrchol a thryloyw gyda’i gyflenwyr lleol, bach. Hefyd, mae gan Pasture ei fferm ei hun, sef Buttercliffe Farm ar gyrion Bryste, ble y caiff cynnyrch cynhenid ei dyfu ar gyfer y bwytai, a ble y gellir mynd â’r staff i ddysgu am darddiad y bwyd a bwyd tymhorol.
- Cymdeithas: Cymeradwywyd Pasture am ddangos ymrwymiad i gymdeithas ehangach drwy ddewis dim ond gweithio gyda chyflenwyr sy’n rhannu’r un gwerthoedd, a thrwy roi’r elw a wneir o werthu dŵr wedi’i hidlo i elusennau lleol sy’n mynd i’r afael â digartrefedd a phroblemau iechyd meddwl.
Esboniodd Sam, “Fy ngweledigaeth ar gyfer Pasture oedd hyrwyddo’r cynnyrch gorau posibl yn y ffordd orau bosibl, felly mae’n deimlad gwych bod ein hymdrechion yn cael eu cydnabod yn swyddogol. Mae’r Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy yn rhoi’r wobr Food Made Good i fwytai sy’n bodloni cyfres benodol iawn o feini prawf, ac rydym yn falch iawn o dderbyn y wobr orau, sef tair seren. Mae wedi rhoi modd i fyw i’r tîm cyfan, a hynny ar ôl i bawb weithio tu hwnt o galed i sicrhau llwyddiant Pasture.”
Ychwanegodd Alec Wilkinson, Pennaeth Diwylliant a Chynaliadwyedd Pasture, “Roedd ennill yr achrediad hwn yn golygu bod yn rhaid i ni edrych ar ein holl ddulliau gweithredu yn fanwl – ond wrth fynd drwy broses mor fanwl, rydym wedi gallu dangos tystiolaeth manwl gywir o’n hymrwymiad i gynaliadwyedd am y tro cyntaf. Gwelsom fod hyn hefyd yn cael sgil-effaith bositif ar gynhyrchwyr sy’n rhan o’n cadwyn gyflenwi; mae llawer o’r rhai rydym yn gweithio â nhw bellach yn chwilio am ffyrdd o wella, ffurfioli neu gyfleu eu camau gweithredu a’u hymrwymiadau eu hunain mewn perthynas â chynalidwyedd, ac mae hynny’n wych o beth.”
Juliane Caillouette Noble o’r Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy, “Mae’r Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy yn falch o wobrwyo Pasture gyda gwobr tair seren y safon Food Made Good 2023. Mae ein proses ardystio gynhwysfawr, trylwyr a chyfannol yn asesu cynaliadwyedd busnesau lletygarwch ar draws yr holl broses weithredu, o ddefnyddio ffynonellau eglur a chyfrifol i’r diwylliant y mae’n ei greu i’r staff. Mae’r achrediad tair seren yn gyflawniad cwbl anhygoel ac yn arwydd o ymroddiad eithriadol i gynaliadwyedd gan y tîm cyfan yn Pasture.”
Pearl Costello yw Cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Bwyd Caerdydd – sef partneriaeth fwyd y ddinas sy’n tyfu’n gyflym, a’r sefydliad sy’n gyfrifol am yr ymgyrch i wneud Caerdydd yn un o’r lleoedd bwyd mwyaf cynaliadwy yn y DU erbyn 2024. Ychwanegodd “Mae’n hyfryd gweld y bwyty annibynnol cyntaf yng Nghymru i gael achrediad 3* gan y Gymeithas Bwytai Cynaliadwy yma yn y brifddinas. Mae Caerdydd yn datblygu ‘mudiad bwyd da’, a’r gobaith yw, ar ôl i Pasture osod y safon, y bydd mwy o fwytai lleol yn gwneud yr un fath.”
Mae Bwytai Pasture bellach yn awyddus i rannu eu gwybodaeth a’u profiad gyda chymuned Bwyd Caerdydd; ac i’r perwyl hwn, mae gennym ddigwyddiadau cyffrous i’w rhannu dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf – i gael gwybod mwy, ymunwch â Bwyd Caerdydd neu gallwch danysgrifio i’r newyddlen yma.
I gael gwybod mwy am grŵp bwytai Pasture, ewch i: pasturerestaurant.com.
(i) Cadwyni cenedlaethol yw’r unig fwytai eraill yng Nghymru i gael yr achrediad Food Made Good gan gynnwys Wahaca (3*), Pizza Hut (2*) a Nando’s (3*). I gael gwybod mwy, ewch i thesra.org/about-us/food-made-good-directory.
The post Pasture yw’r Bwyty Annibynnol Cyntaf yng Nghymru i gael 3* gan y Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy appeared first on Food Cardiff.